Rhif y ddeiseb: P-06-1403

Teitl y ddeiseb: Ailystyried Toriadau i Gyllid Ôl-raddedig a Chynyddu Benthyciadau Doethuriaeth i Gyfateb ag Ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)

Geiriad y ddeiseb: Mae ôl-raddedigion yn hanfodol ar gyfer datblygu gwybodaeth, arloesi a meithrin arbenigedd. Fodd bynnag, mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 wedi cyhoeddi y bydd gwerth £12.8 miliwn o grantiau a bwrsariaethau ôl-raddedig yn cael eu dileu. Bydd hyn yn peri rhwystr i ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig oherwydd beichiau ariannol cynyddol, bydd yn peryglu amrywiaeth yn ein rhaglenni academaidd, bydd yn llesteirio cystadleurwydd ein sefydliadau yn fyd-eang, a bydd yn effeithio ar dwf economi a chymunedau Cymru.

Mae’r ddeiseb hon hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu benthyciadau doethuriaeth i gyfateb ag ariantal blynyddol UKRI. Mae myfyrwyr doethuriaeth sy'n cael benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cael £28,395 i dalu ffioedd dysgu a chostau byw cyffredinol am dair i bedair blynedd o astudio amser llawn (gall unrhyw un sy'n bodloni'r gofynion wneud cais am y rhain). Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n cael ariantal UKRI (sydd ond ar gael i fyfyrwyr a ariennir gan y Cyngor Ymchwil) yn cael £18,622 y flwyddyn ar gyfer costau byw yn unig. Mae'r gwahaniaeth hwn yn gadael myfyrwyr doethuriaeth sy’n defnyddio benthyciadau mewn sefyllfa anodd iawn, gyda llawer ohonynt yn gwneud sawl swydd tra eu bod yn dilyn cyrsiau amser llawn, yn defnyddio banciau bwyd, a hyd yn oed yn gadael eu hastudiaethau doethuriaeth. Gyda’r argyfwng costau byw sydd ohoni, y gostyngiad yn y cyllid a’r ysgoloriaethau ymchwil sydd ar gael, a chyfradd druenus y benthyciadau doethuriaeth, mae Cymru mewn perygl o weld gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy’n dilyn astudiaethau doethuriaeth, a byddai hynny’n cael effaith ddifrifol ar arloesi ac ymchwil.


1.        Y cymorth presennol ar gyfer ariannu myfyrwyr ôl-raddedig

1.1.            Cyllid Meistr Ôl-raddedig

Ar hyn o bryd, gall myfyriwr sy’n dechrau naill ai cwrs Meistr a addysgir neu gwrs Meistr sy’n seiliedig ar ymchwil wneud cais am gyfuniad o fenthyciad a grant i helpu gyda chostau eu cwrs a’u costau byw. Ym mlwyddyn academaidd 2023-24, mae hyn yn cynnwys:

§  Grant sylfaenol o £1,000 nad yw’n destun prawf modd, sydd ar gael i bob myfyriwr;

§  Uchafswm grant sy’n destun prawf modd o £6,885 (gan gynnwys y grant sylfaenol o £1,000);

§  Benthyciad nad yw’n destun prawf modd i ddarparu cymorth llawn (grant a benthyciad) hyd at £18,770.

Mae nifer o feini prawf cymhwysedd gan gynnwys cenedligrwydd a statws preswylio myfyriwr, y cwrs a’r brifysgol, oedran myfyriwr a’i astudiaethau blaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer y tair bwrsariaeth i’r rhai sy’n astudio gradd Meistr yng Nghymru:

§  £4,000 i bobl dros 60 oed. Nod y grant yw rhoi cymorth ychwanegol i’r myfyrwyr hyn nad ydynt yn gallu cael y cyllid cwrs Meistr ôl-raddedig.

§  £2,000 i raddedigion o bob oedran sy’n astudio pynciau STEMM (mae’r rhain yn cynnwys gradd Meistr mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth);

§  £1,000 ar gyfer astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Nod y grant yw cefnogi datblygiad siaradwyr Cymraeg a chefnogi nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

1.2.          Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig

Gall myfyrwyr doethuriaeth, sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru, sy’n dechrau cwrs rhan-amser neu gwrs amser llawn, wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am Fenthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig. Nid yw’r benthyciad yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.

Gall myfyrwyr cymwys ym mlwyddyn academaidd 2023-24 fenthyca hyd at uchafswm o £28,395 dros gyfnod eu rhaglen ddoethurol. Mae cyrsiau parhaus sy’n dechrau o flwyddyn academaidd 2018-19 neu’n hwyrach, ond cyn 1 Awst 2023, yn gymwys i gael cymorth ar y gyfradd sy’n gymwys i’r flwyddyn academaidd y gwnaethant ddechrau’r cwrs ynddi.

Gwneir cyfrandaliadau ar draws nifer blynyddoedd y rhaglen ddoethurol, gydag uchafswm y cymorth yn daladwy mewn unrhyw flwyddyn sydd â therfyn uchaf o 50 y cant.

Mae nifer o feini prawf a ddefnyddir i benderfynu a yw myfyriwr yn gallu cael Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig ai peidio. Mae’r rhain yn cynnwys cenedligrwydd a statws preswylio, oedran, cwrs, prifysgol neu goleg, astudiaethau blaenorol a ffynonellau cyllid eraill myfyriwr.

Nid yw myfyriwr yn gymwys i gael Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig os yw’n cael lwfans, bwrsariaeth neu ddyfarniad a ddarperir gan Gyngor Ymchwil neu Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Darperir ar gyfer hyn gan Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018.

Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb:

Ni fwriedir i’r benthyciad cyfraniad at gostau dalu costau llawn astudio ar gyfer doethuriaeth ôl-raddedig ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid hyn.

Mae’r Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig yn debyg i’r Benthyciad Doethuriaeth sydd ar gael drwy Student Finance England pan fo myfyrwyr, sydd fel arfer yn preswylio yn Lloegr, yn gallu benthyca hyd at £28,673 ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a delir mewn cyfrandaliadau dros y cwrs. Nid yw benthyciadau o’r fath ar gael yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

1.3.          Ysgoloriaethau ymchwil UKRI a hyfforddiant doethurol

Corff yw Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) sy’n dwyn ynghyd y saith Cyngor Ymchwil yn y DU ynghyd ag Innovate UK ac Research England. Mae gan bob Cyngor Ymchwil ei bortffolio ei hun sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys gwyddorau meddygol a biolegol, ffiseg, cemeg a pheirianneg, gwyddorau cymdeithasol, economeg, gwyddorau amgylcheddol a’r celfyddydau a’r dyniaethau.

Mae UKRI yn darparu cyllid i sefydliadau ymchwil (prifysgolion a chynghorau ymchwil fel arfer) i dalu am ffioedd a chostau byw myfyrwyr doethurol. Mae prifysgolion yn cynnig ysgoloriaethau ymchwil i fyfyrwyr doethurol sy’n defnyddio’r cyllid UKRI hwn. Felly, mae angen i fyfyrwyr wneud cais i’w prifysgol am ysgoloriaeth ymchwil ac nid i UKRI nac i gyngor ymchwil.

Mae myfyriwr y dyfernir ysgoloriaeth ymchwil iddo yn cael uchafswm ariantal i dalu am gostau byw a chymorth ar gyfer ffioedd dysgu. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24, mae’r ariantal yn daliad blynyddol o £18,622 ac o leiaf £4,712 ar gyfer ffioedd dysgu. Mae’r ariantal yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r myfyriwr ac fel arfer nid yw’n drethadwy ac nid oes angen ei dalu’n ôl. Mae’r ffioedd dysgu yn cael eu talu’n uniongyrchol i’r sefydliad ymchwil.

Nid yw myfyriwr sy’n cael lwfans, bwrsariaeth neu ddyfarniad gan gyngor ymchwil neu UKRI yn gymwys i gael Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

2.     Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

2.1.          Gostyngiadau Cyllideb Drafft i gyllid ôl-raddedig

Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25. Mewn llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, nododd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “rydym wedi diogelu cyllidebau addysg ôl-16 cymaint â phosibl, sydd wedi golygu bod dewisiadau anodd wedi’u gwneud i ailffocysu cyllid o addysg bellach ac addysg uwch”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Wrth weithredu i ddiogelu cymorth cyn belled â phosibl i fyfyrwyr israddedig rydym yn ailflaenoriaethu £9.6m o grantiau ôl-raddedig ond yn newid i ddarparu cymorth yn unig drwy fenthyciadau i fyfyrwyr newydd o’r flwyddyn academaidd 2024/25”. Mae hyn yn cyfeirio at y Cyllid Meistr Ôl-raddedig, pan fo myfyrwyr yn gallu cael hyd at £18,770 gyda grant o £6,885 ar y mwyaf a benthyciad o £11,885 os yw incwm aelwyd y myfyriwr yn £18,370 neu lai. Yr isafswm grant y bydd myfyriwr yn ei gael yw £1,000 gyda gweddill y £17,700 yn fenthyciad.

Mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hefyd yn cynnwys gostyngiad o £3.2 miliwn o ddileu bwrsariaethau cymhelliant ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr graddau Meistr a addysgir sy’n hanu o Gymru. Dywed Llywodraeth Cymru fod y cyllid hwn “o fudd anghymesur i fenywod a’i fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth”. Felly, bydd hyn yn dirwyn i ben y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar hyn o bryd ac ers blwyddyn academaidd 2019-20 ar gyfer tair bwrsariaeth Feistr.

2.2.        Gwaith craffu’r Pwyllgor ar y Gyllideb Ddrafft

Holodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch cael gwared â’r grantiau ar gyfer myfyrwyr graddau Meistr ôl-raddedig newydd a newid i fenthyciadau o flwyddyn academaidd 2024-25. Dywedodd:

Mae'r ddarpariaeth ar gyfer ôl-raddedigion yma yng Nghymru gyda'r mwyaf cefnogol ar draws y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd, felly mae'r newidiadau yma'n cychwyn o'r man hwnnw, os hoffwch chi. […] O ran blaenoriaethu, yr hyn wnes i benderfynu yw bod rhaid gwario'r arian sydd gyda ni yn y ffordd fwyaf blaengar â phosibl—felly, ble mae'r arian yn cael y mwyaf o effaith i roi'r cyfleoedd gorau i bobl.   Ac rŷm ni'n gwybod o dystiolaeth o bob cwr mai'r cynharaf rŷch chi'n gwario'r arian hwnnw mewn siwrnai addysgiadol, dyna le chi'n cael yr effaith fwyaf positif dros gwrs bywyd. [paragraffau 26-27]

Holodd y Pwyllgor hefyd i’r Gweinidog ynghylch dirwyd bwrsariaethau cymhelliant ôl-raddedig i ben. Dywedodd:

… rŷm ni sôn am cohort cymharol fach o bobl, ac mae'r gefnogaeth hon gyda'r mwyaf, os hoffech chi, felly mae'n gefnogaeth sy'n dod ar ben  y gefnogaeth i ôl-raddedigion. [paragraff 32]

Yn adroddiad y Pwyllgor ar y Gyllideb Ddrafft, mynegodd ei fod yn “siomedig bod grantiau ar gyfer ôl-raddedigion yn dod i ben ac y bydd y rhain yn cael eu disodli gan fenthyciadau y bydd angen eu had-dalu”. Ychwanegodd: “Efallai y bydd canlyniadau economaidd hefyd yn sgil disodli grantiau ôl-raddedig gyda benthyciadau oherwydd, yn aml, dyma'r mathau o bobl y mae eu harloesedd a’u harbenigedd yn sbarduno twf economaidd.”

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.